Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (263)v2 |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5750 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â diogelu ysbytai rhag cael eu cau a'u hisraddio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:
'ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu proses gynllunio genedlaethol ar gyfer darparu ysbytai dosbarth ac arbenigol yng Nghymru'
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyllid o £5.3 miliwn a sicrhawyd ar gyfer Ysbyty Coffa Llandrindod yn y cytundeb cyllideb diweddar rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ailfywiogi ysbytai cymunedol a gwasanaethau yn y gymuned.
Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddyg ymgynghorol, gynaecoleg, a llawfeddygaeth y fron yn y tri ysbyty yng ngogledd Cymru. |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5752 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod Cymru wedi elwa o'r cynllun economaidd hirdymor a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ac yn cydnabod bod dyfodol economaidd a chymdeithasol Cymru yn dibynnu ar barhad y cynllun hwnnw.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y byddai dyfodol economaidd a chymdeithasol Cymru yn cael budd o Lywodraeth y DU sy'n cydbwyso'r gyllideb mewn ffordd deg, drwy sicrhau bod y bobl fwyaf cyfoethog yn talu eu cyfran ac yn mynd i'r afael ag osgoi trethi, gan ein galluogi ni i fenthyca ar gyfer buddsoddi yn ein heconomi a'n seilwaith, yn hytrach na pheryglu sefydlogrwydd economaidd drwy fenthyca neu dorri gormod. |
Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5751 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai plismona adlewyrchu anghenion pobl Cymru.
2. Yn credu bod heddluoedd Cymru wedi cael eu gwleidyddoli drwy sefydlu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu etholedig.
3. Yn galw am ddileu'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu cyn gynted â phosibl.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod pwynt 1 newydd ac ailrifo:
Yn croesawu bod troseddu wedi gostwng mwy na 20 y cant i'r lefel isaf erioed o dan Lywodraeth y DU a bod plant dan gadwad, fel yr oedd o dan y Blaid Lafur, wedi dod i ben.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1:
'ac y caiff hyn ei wneud orau gan heddluoedd lleol ac atebol ac nid drwy greu un heddlu yng Nghymru sydd wedi'i ganoli'n ormodol.'
Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a'u disodli gyda:
Yn croesawu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a etholir yn uniongyrchol sy'n rhoi cymunedau lleol wrth wraidd plismona ac yn dwyn Prif Gwnstabliaid lleol i gyfrif.
Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod pwynt 3 newydd ac ailrifo:
Yn credu y bydd datganoli plismona i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn galluogi polisïau i fod yn fwy ymatebol i anghenion Cymru ac felly'n galw am ddatganoli plismona a chyfiawnder ieuenctid, a chynnal adolygiad i ddatganoli carchardai, y gwasanaeth prawf a chyfiawnder. |
Cyfnod pleidleisio |
Dadl Fer (30 munud) NDM5749 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Wynebu her tlodi tanwydd |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Mai 2015